Yn Gymraeg

Croeso i flog Gwyl Straeon Digidol 7.

Mae’r Wyl eleni yn addo ysbyrdoli, annog a dangos y posibiliadau cyffrous sydd ym maes straeon digidol heddiw.

Oes ydych yn gweithio mewn addysg, yn y gymuned neu yn artist, dyma eich cyfle i rannu profiadau, archwilio syniadau creadigol newydd, gweld y diweddaraf mewn datblygiadau technolegol, edrych ar esiamplau o’r ymaferiadau gorau yn y DU a’r byd ac mae’n gyfle i ddathlu pwysigrwydd straeon digidol.

Mae DS7 yn cyflwyno diwrnod llawn dop o siaradwyr i’ch hysbrydoli a sesiynau ar bob dim y gallwch feddwl amdano ac mae’n gyfle euraidd i ryngweithio gyda’r gymuned adrodd straeon digidol ar hyd Cymru, y DU a thu hwnt.

Eleni, mae DS7 yn symud o’i leoliad blynyddol yn nhre hardd Aberystwyth, ble y cafodd ei gynnal am y 6 mlynedd diwethaf. Ar Fehefin y 7fed 2012, mi fydd yr Wyl yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, Caerdydd, Cymru, DU. Ni allwn gynnig y lleoliad hyfryd ar arfodir Cymru yr ydym wedi profi dros y chwe mlynedd diwethaf, ond rydym yn hyderus o barhau yn nhraddoadiad yr Wyl – ymgynull grwp o bobl amrywiol sydd a diddordeb mewn straeon digidol yn eu chyfanrwydd at’i gilydd.

Er fod yr Wyl yn cael ei chynnal yng Nghymru, mae’n ymestyn at gynulleidfaoedd ar draws y DU, a’r byd. O achos hyn, Saesneg yw iaith nifer helaeth o’r cyfranogwyr a’r gynulleidfa a dyma yw prif iaith yr Wyl a’r blog yma.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Connecting to %s